Dros yr wythnos ddiwethaf dwi wedi bod allan o’r swyddfa yn ffilmio tipyn yn cwrdd â chymeriadau di ri. Fe fûm yn ddigon ffodus o gael ymweld â Dr Dai a Cynthia Morris fferm yr Ostrey San Cler, lle maen nhw’n cadw diadell safonol o ddefaid Lleyn o dan yr enw Penywern. Rhwng y cyfnod 2006 i 2012 diadell Penywern oedd yr orau yng Nghymru heblaw am 2010 pan gafodd Dr Dai a Cynthia yr anrhydedd o feirniadu’r gystadleuaeth.
Mae Dr Dai wedi ymroi’n llwr i’r diwydiant defaid ar hyd ei oes, ac i brofi hynny, eleni fe enillodd gwobr goffa John Gittins yn Ffair Aeaf Cymru sy’n wobr i glodfori cyfraniad person i’r diwydiant defaid. Mab fferm o Geredigion yw Dr Dai Morris yn wreiddiol, ac wedi cael gradd mewn amaethyddiaeth yn Aberystwyth fe enillodd ysgoloriaeth i wneud doethuriaeth yn Newcastle on tyne. Wedi gorffen addysg ei hun, fe benderfynodd aros yn y maes a Dr Dai oedd pennaeth cyntaf coleg amaethyddol Cymru. Trwy’r swydd bwysig hon esblygodd ei ddiddordeb mewn datblygu’r diwydiant defaid, ac wedi dychwelyd i Gymru i fyw, aeth ati ar y cyd gyda John Gittins ag eraill i greu brid newydd o ddefaid, sef y Fiwlen Gymreig.
Mae’r Fiwlen Gymreig wedi sefydlu ei hun yn frid amlwg iawn yng Nghymru, ac mae tua hanner can mil ohonyn nhw’n cael eu gwerthu mewn tri phrif arwerthiant bob blwyddyn. Gellid clywed prisiau uchel yn atseinio o’r cylchoedd gwerthu fel arfer, ac eleni fe werthwyd corlan o ddefaid blwydd am £215, a chorlan o wyn menyw am £205. Prisiau anhygoel sy’n profi pwysigrwydd y brid. I ddarganfod mwy am Dr Dai Morris, a’i gyfraniad i’r diwydiant defaid fe fydd yn ymddangos ar ‘Ffermio’ yn y flwyddyn newydd.
Hefyd yn ddiweddar fe fues i yng nghanol y plu yn helpu Hywel Jenkins a’r teulu i blufio twrcwns. Dyna oedd diwrnod difyr, gyda phawb yn cael hwyl wrth ymgymryd â’r dasg. Dyma draddodiad sy’n cael ei golli’n gyflym, syn ddigwydiad cymdeithasol iawn, does dim yn well yn fy marn i, ac yn sicr mae’n arwydd bod y Nadolig wrth y drws.
Nos Sul y 14ef o Ragfyr fe ges i’r anrhydedd o groesawi gwasanaeth carolau C.Ff.I Sir Gâr i gapel Annibynwyr Capel Isaac. Roedd hi’n wledd o’r dechrau i’r diwedd, gyda thalent aelodau Sir Gâr unwaith eto yn cael ei amlygu. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi, ac am bob cymorth wrth baratoi ar gyfer y noson. Braf hefyd oedd cael parhau i gasglu arian tuag at Uned gancr y fron Llanelli, elusen sy’n cyffwrdd a bywydau bob un ohonom ni mewn un ffordd neu’r llall.
Ni’n cael hoe fach dros y Nadolig, hyd nes y flwyddyn newydd, felly gaf i ddiolch i’r holl deuluoedd sydd wedi agor y drws inni fel criw ffermio, ac i’r cymeriadau lu dwi wedi cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf. Nadolig Llawen i chi gyd a phob llwyddiant ac iechyd da am 2015. Diolch am ddarllen.