Blwyddyn Newydd dda i chi gyd, gan obeithio nad ydych chi wedi stwffio gormod, ond wedi cael ychydig o gyfle i ymlacio dros yr ŵyl. Mae Gary’r gŵr, yn sganio defaid adeg yma o’r flwyddyn, ac felly’n gyfnod prysur iawn iddo. Yn gyffredinol eleni mae’r canran sganio ychydig yn is, ond mae’n gynnar eto gyda llawer o ddefaid ar ôl i’w sganio ar hyd a lled y wlad.
Mae’r Nadolig wedi gwibio heibio, gyda thua 8 miliwn o goed Nadolig wedi cael eu prynu, a gwerth 8,000 tunnell o bapur lapio, sy’n gyfystyr â 50,000 o goed. Dyma’r adeg lle mae llawer yn sylweddoli eu bod wedi gwario gormod ac yn dechrau edrych ar dorri nôl, ac yn gyfle i edrych ar wastraff. Yr hyn sydd yn fy nghythruddo i, yw’r ffaith bod tua biliwn o bobl yn newynu yn y byd, tra bod traean o’r bwyd ni’n cynhyrchu yn cael ei wastraffu trwy gydol y gadwyn fwyd. Mae hyd yn oed rhai archfarchnadoedd yn gwrthod llysiau a ffrwythau sy’n hollol iawn i fwyta, oherwydd nad ydyn nhw y maint neu’r siâp delfrydol ar gyfer ei gofynion hwy. Mae’r holl wastraff yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd hefyd, gyda’r cyfanswm o dir sydd angen i dyfu cynnyrch sy’n cael ei wastraffu mewn blwyddyn, tua’r un maint a gwlad Mecsico.
Mae 2014 wedi bod yn fwyddyn i’w chofio imi rhwng popeth, ac wrth gwrs yn newid byd wrth imi briodi a symud i ardal Pentrecwrt i fyw. Dwi wedi cael croeso gwresog yno ac yn ddiolchgar iawn am hynny. Ond wrth edrych nôl ar y diwydiant amaethyddol y llynedd, fe ddechreuodd yn yr un modd ag y gorffennodd, gyda’r ansicrwydd ynghlyn â sut fydd cynllun y taliadau Sylfaenol yn cael ei ddosbarthu ar draws Cymru yn 2015. Yn ystod diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredinol, mae llawer wedi bod yn dadlau’r faith bod angen diwygiad sy’n raddol, er mwyn lleihau’r effaith ar fusnesau wrth newid o’r taliadau hanesyddol i’r taliadau ar sail arwynebedd. Beth bynnag sy’n digwydd gadewch inni gyd obeithio y bydd bob opsiwn posibl yn cael ei ystyried, a’r penderfyniad yn cael ei wneud yn ddoeth ac yn gall, law yn llaw a chyfathrebu gyda ni y bobl sy’n gweithio’r tir, ac yn sicrhau bwyd safonol ar y plât.
Yn yr un modd gobeithio bydd ein Dirprwy weinidog newydd ni dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans yn gweithredu rhaglen datblygu gwledig Cymru, sy’n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu cynlluniau a phrosiectau sy’n cynnig cyfleoedd i ffermwyr, ond yn bwysicach na dim yn rhai sy’n haws ymuno â, ac elwa wrthyn nhw.
Ond wrth deithio o amgylch y wlad yn 2014 yn ffilmio ar gyfer y rhaglen Ffermio, calonogol iawn yw gweld yr holl frwdfrydedd, egni ag angerdd sydd gan gymaint o’n hieuenctid ni’r dyddiau hyn. Mae yna ganran uchel yn awchu am naillai datblygu eu ffermydd neu am ddechrau amaethu. Dyma beth sy’n creu dyfodol i amaethyddiaeth, law yn llaw a ffermwyr proffesiynol sy’n ymroi 100% i’r diwydiant. Felly ar ddechrau blwyddyn newydd, anogaf ar yr undebau a’r Llywodraeth i sicrhau bod yr egni yma’n cael ei wobrwyo gyda chynlluniau, prosiectau a chyfleoedd defnyddiol a phwrpasol yn ogystal â sicrhau pris teg am yr hyn ni’n cynhyrchu.
Blwyddyn Newydd dda, llewyrchus ac iachus i chi gyd.