Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2019, fe fydd Ffermio yn cynnal cystadleuaeth lle mae cyfle i ennill beic cwad ATV. Dyma’r amodau a’r telerau yn llawn:
Mae’r amodau a’r telerau hyn yn rhan o’r rheolau a nodir yn yr hysbysiad cystadleuaeth sy’n ymwneud â “Chystadleuaeth Ffermio”.
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n 18 oed neu’n hŷn, ac eithrio staff S4C, Telesgop Cyf neu gwmni CAN-AM, eu teulu agosaf a chwmnïau y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda’r gystadleuaeth hon.
2. Cynigir un wobr sef cwad Outlander 450, gwerth £6,699.
3. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.
4. Caniateir un ymgais fesul unigolyn.
5. I gystadlu: Bydd Ffermio yn gofyn cwestiwn gwahanol bob wythnos a bydd llythyren gyntaf pob ateb, wedi’u hail-drefnu, yn sillafu gair pedwar llythyren. Bydd rhaid i chi nodi’r ateb a’i anfon yn ôl atom.
6. I gystadlu, rhaid i chi: Bostio’ch ateb, eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn i: Cystadleuaeth Ffermio Telesgop, Stiwdios y Bae, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8QB neu gystadlu ar-lein trwy droi at: www.s4c.cymru/ffermio gan nodi’ch ateb, eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn ar y ffurflen gystadlu. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
7. Y dyddiad cau yw 18 Gorffennaf 2016 am 17.00
8. Dewisir enw yr enillydd ar hap o’r holl atebion cywir ar y 19 Gorffennaf 2019. Bydd penderfyniad Telesgop ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
9. Hysbysir yr enillydd mewn galwad ffôn ddydd Gwener, 19 Gorffennaf 2019. Cyflwynir y wobr i’r enillydd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
10. Ceidw S4C yr hawl i gyhoeddi enw’r enillydd a’r sir y mae’n byw ynddi ar s4c.cymru/cystadlaethau am 21 diwrnod neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C. Yn ogystal, caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Ffermio.
11. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:
(a) yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu i S4C neu Telesgop yn gywir a’u bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;
(b) yn cytuno ymrwymo i’r amodau a thelerau hyn; ac
(c) yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio’u henw a’u llun at ddibenion hyrwyddo.
12. Mae Telesgop yn cadw’r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o’r amodau a thelerau hyn.
13. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng un o’r dulliau ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.
14. Bydd yr enillydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau trosglwyddo, arian gwario a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.
15. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo’r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.
16. Mae Telesgop yn cadw’r hawl i gyfnewid y wobr, neu unrhyw ran ohoni, am wobr o’r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad Telesgop yn hyn o beth yn derfynol.
17. Ni fydd Telesgop nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad/amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf postio neu anfon ffurflen dros y we yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.
18. Cyhoeddir yr enillydd yn y Sioe Frenhinol ar ddydd [Mawrth] [23] Gorffennaf 2019 yn Llanelwedd. A bydd Telesgop a Can AM yn trefnu i ddosbarthu’r wobr i gyfeiriad yr enillydd yn y DU. Os na fydd modd i Telesgop gysylltu â’r enillydd erbyn y dyddiad uchod trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, bydd gan Telesgop yr hawl i ddewis enillydd arall , yn unol â’i disgresiwn llwyr.
19. Mae Telesgop a S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth.
20. Mae Telesgop ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i’r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy’n codi o’r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy’n digwydd i’r enillydd o ganlyniad i’r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.
21. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth, gan gynnwys cyhoeddi enw’r enillydd yn unol â’r telerau uchod, y bydd Telesgop ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarparwyd wrth gystadlu oni bai bod ymgeisydd wedi cytuno fel arall. Gall Telesgop ac S4C gadw data sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am gyfnod rhesymol wedi dyddiad cau’r gystadleuaeth i’w cynorthwyo i ddelio ag unrhyw ymholiadau. Trwy ymgeisio rydych yn cadarnhau y gall S4C a Telesgop brosesu eich data ar gyfer y pwrpasau hyn. Prosesir data personol yn unol â darpariaethau deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol diogelu data y DU. Gweler Polisi Preifatrwydd S4C (www.s4c.cymru/c_privacypolicy.shtml) S4C am ragor o fanylion. Gweler Polisi Preifatrwydd Telesgop yma [ychwanegu].
22. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Trefnir y gystadleuaeth hon a’r hyrwyddwr yw Telesgop, Stiwdios y Bae, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8QB a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 08706004141, (ni fydd galwadau yn costio mwy na galwad cyfradd cenedlaethol i rifau 01 neu 02).
Between June and July 2019, Ffermio will present a competition to win an ATV quad bike. Here are the full terms and conditions:
These terms and conditions form part of the rules set out in the competition notice relating to the “Ffermio Competition”.
1. The competition is open to all residents of the United Kingdom aged 18 years or over except for S4C, Telesgop Cyf and CAN-AM staff, their immediate families and companies directly involved with this competition.
2. There prize is Outlander 450 £6,699.
3. No purchase necessary to compete.
4. One entry per person.
5. To enter the competition: The Ffermio team will present a competition asking a different question every week. The first letter of all the answers, once rearranged, will create a four-letter word. You will have to send us the answer.
6. To enter the competition, your answer, name, address and telephone number must be: sent by post to: Ffermio Competition, Telesgop, Bay Studios, Fabian Way, Swansea, SA1 8QB or submitted online by going to the Ffermio website: www.s4c.cymru/ffermio. Entries made after the closing date and time will not be entered into the competition.
7. The closing date is the 18 of July 2019 at 17.00.
8. The judges will select the winners’ name at random from the correct entries received. Telesgop’s decision as to the winner is final and no correspondence will be entered into.
9. The winner will be notified by telephone on the 19 July 2019. The prize will be presented to the winner at the Royal Welsh in Llanelwedd.
10. S4C reserve the right to announce the winners name and county of residence and will be available after the closing date on s4c.co.uk/competitions for 21 days or by telephoning the S4C Viewers’ Hotline.
11. By entering the competition entrants:
(a) confirm that all information provided by them to S4C or Telesgop is correct and that they meet all eligibility criteria for the competition;
(b) agree to be bound by these terms and conditions; and
(c) agree that should they win the competition, their name and photograph may be used by S4C for promotional purposes.
12. Telesgop reserve the right to request written proof of age of the winner and to disqualify any entrant if it has reasonable grounds to believe the entrant has breached any of these terms and conditions.
13. All entries must be received via the entry methods noted in promotional material and messages for the competition. Entries submitted by any other methods will not be accepted.
14. All taxes, insurances, transfers, spending money and other expenses (including meals or personal expenses) unless specifically stated are the sole responsibility of the winners.
15. The prize cannot be exchanged or transferred and there is no cash alternative.
16. Telesgop reserve the right to substitute the prize or any part of it for a prize of equivalent or greater monetary value and S4C’s decision in this regard is final.
17. Neither Telesgop nor S4C take any responsibility for any error, omission, interruption, deletion, defect or delay in any communication method used by entrants or for entries that have not been received before the closing time and date. Proof of posting, telephone call or sending of text or e-mail cannot be accepted as proof of delivery.
18. The winner will be announced and presented to the winner at the Royal Welsh in Llanelwedd on the Tuesday the 23rd of July. Telesgop and Can-Am will make arrangements to deliver the prize to an UK address. If, by this date, Telesgop are not able to contact the winner following reasonable attempts by Telesgop to do so, Telesgop is entitled to give the prize to a runner up or to use the prize in any future S4C promotion in their absolute discretion.
19. Telesgop and S4C reserve the right to amend these terms and conditions or to cancel, alter or amend the competition at any stage due to events beyond its control.
20. Telesgop and S4C exclude any liability to the full extent permitted by law for any loss, damage, injury or disappointment suffered by any entrant arising from his or her entry into the competition or occurring to the winner arising from his or her acceptance of the prize.
21. Telesgop/S4C will only use personal data provided when entering the competition for the purposes of administering the competition unless an entrant has consented otherwise. Telesgop/S4C may keep entrants’ data for a reasonable period following the competition closing date to enable it to deal with any queries. Personal data will be processed in accordance with current UK data protection legislation and regulations.
22. This competition is subject to the laws of England and Wales.
This competition is organised by and the promoter is Telesgop, Bay Studios, Fabian Way, Swansea, SA1 8QB and any queries or complaints about this competition may contact the S4C Viewers Hotline on 08706004141.