Yn 2005, ail-lansiwyd y gyfres gyda chyflwynwyr newydd a brand newydd. Roedd yr ail-lansiad yn cynnwys y rhaglen Ffermio wythnosol ar S4C a Bwletin newyddion a thywydd ddwywaith yr wythnos ar S4C Digidol. Y cyflwynwyr newydd oedd Iola Wyn, Daloni Metcalfe, Alun Elidyr a Mererid Wigley.
Bu’r Bwletin Ffermio yn cynnwys manylion cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth a phrisiau’r farchnad er enghraifft, oedd yn caniatáu eitemau hirach yn y rhaglenni hanner-awr ar bynciau o ddiddordeb ehangach fel bwyd organig, trafnidiaeth, iechyd a chartrefi mewn ardaloedd gwledig a phortreadau o gymeriadau cefn gwlad o bob oed a chefndir. Mererid Wigley oedd prif gyflwynydd y rhaglen hon, tan Awst 2008. Ymunodd Terwyn Davies â’r rhaglen fel cyflwynydd yn haf 2008 tan ddiwedd y gyfres ym Mai 2009.
Yn Ionawr 2011, gwelwyd ymadawiad Iola Wyn fel cyflwynydd ar ôl cyfnod o chwe blynedd. Ar 24 Ionawr 2010 gwnaeth Meinir Jones ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres fel cyflwynydd newydd y rhaglen.
Mae Ffermio’n parhau i ddarparu fforwm cyfoes ar gyfer ffermwyr a materion amaeth ac i gwestiynu gwleidyddion ac arweinwyr yr undebau ynglyn â newidiadau sy’n effeithio ar y diwydiant. Fodd bynnag, mae hefyd yn trin a thrafod pynciau gwledig mewn ffordd sy’n apelio at y gynulleidfa drefol a gwledig gyffredinol, sy’n ymddiddori ym mywyd cefn gwlad.
Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn
Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.