BLOG MEINIR 04-07-2012

Glaw glaw a rhagor o law! Ofnadwy yw’r unig air i ddisgrifio’r tywydd! Mae’n anodd iawn gwneud unrhywbeth tu allan ar hyn o bryd, a hynny wrth gwrs yn cynnwys torri’r silwair. Dyma’r pwnc trafod ar hyd y lle.

Yn anffodus mae sefyllfa hir dymor ar ran y silwair yma yn achosi problemau mawr. Ni’n methu cael adle i orffen yr wyn, ac mae ansawdd y cnwd yn gwaethygu’n ddyddiol sydd yn y pendraw yn mynd i olygu bydd costau bwydo’r anifeiliaid yn uwch nag erioed dros y gaeaf eleni.

Yn ddiweddar, fe fues i a gweddill tîm Ffermio i Aberystwyth ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn derbyn gwobr am ein gwasanaeth i’r diwydiant amaethyddol. Roeddem i gyd yn ddiolchgar iawn, ac yn gweld y wobr yn fraint ac yn anrhydedd enfawr.

Yn ystod y cyfarfod cyffredinol roedd yna sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Alun Davies y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Siom oedd y prif teimlad ymysg rheini oedd yn bresennol bod y Cynulliad heb barhau gyda’r cynllun difa moch daear mewn ardal benodedig. Cred nifer mai cam gwag a gwastraff arian yw’r cynllun brechu, a bod y Llywodraeth yn colli cyfle i brofi’r moch daear sy’n cael eu dal i weld os ydynt wedi’u heffeithio â’r diciau. Ymateb y Gweinidog oedd bod y penderfyniad wedi’i wneud i frechu, a bod hwn yn gam ymlaen i’r diwydiant.

Amser a ddengys, ond un peth sy’n sicr, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r clefyd unwaith ac am byth, mae’n diwreiddio ein cymunedau ffermio ers blynyddoedd, yn pwyso’n drwm ar y teuluoedd sy’n colli buches gyfan, sy’n medru golygu colli bywoliaeth a ffordd o fyw, ac oes gyfan o waith caled.

    04/07/2012 in Blog -


Splitter
   

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C