Fe fues i yng nghanol y cystadlu yng Nghaerfyrddin dydd Sadwrn diwethaf yn Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr. Roedd cystadlu brwd yno, a’r safon yn arbennig eleni eto. Gyda’r tywydd ar ein hochr ni roedd yn gyfle i bawb – yn gystadleuwyr ac yn gefnogwyr i fwynhau yng nghanol y bwrlwm.
Y thema ar gyfer ni yng Nghymru eleni oedd ‘Priodas’ a dyna chi olygfa – merched a bechgyn wedi’u gwisgo mewn ffrogiau priodas a morwynion mewn ffrogiau o bob lliw a llun! Ac ro ni yn eu canol nhw fel pregethwr ar gyfer Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd yn priodi fy mrawd Eirian a’i gariad Jasmine, gyda Cai cymydog i ni fel y forwyn – i ni werth ein gweld ac mae yna lun ar gwefan Ffermio! http://www.ffermio.tv/?page_id=1373&album=1&gallery=12
Roedd y Llysgenhades (Louise Jones, CFfI Cwmann) a’i morwynion (Catrin Davies, CFfI Llangadog, Mair Jones, CFfi Llanarthne, Carys Evans, CFfI Abernant, a Buddug James, CFfI Penybont) yn edrych yn hardd iawn yn eu ffrogiau, ac ar ddiwedd y dydd fe gyhoeddodd Rhian Howells Jones sef Cadeirydd Sir Gâr mai Clwb Ffermwyr Ifanc Llangadog oedd enillwyr yr Adran Hŷn a’r Adran Iau. Tipyn o gamp!
Nôl adref ar y fferm, fe benderfyno ni ddoe ei fod yn hen bryd i rai o’r gwartheg cael gadael y sied er mwyn mynd allan i bori ac fe ro nhw wrth eu bodd!
Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn
Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.