BLOG MEINIR – 30-05-2012

Does dim Ffermio nos Lun nesa – ond mae’r ffilmio dal i fynd yn ei flaen ar gyfer ein rhaglen yr wythnos wedyn, sef Mai 14 gan gynnwys y bennod nesaf o ‘Mis Maesteilo’. Fe fyddwch chi’n fy ngweld y tro nesaf mewn dau fart gwahanol. Gwartheg oedd yn mynd dan y morthwyl ym marchnad Aberhonddu a gyda 1200 o wartheg stôr yno roedd y lle dan ei sang. Anifeiliaid tipyn yn llai yr oeddwn ni’n gwerthu y diwrnod wedyn ym marchnad Ffairfach yn Llandeilo sef dofednod. Roedd amrywiaeth yno o bob lliw a llun a rhywbeth at ddant pawb. Bydd rhaid gwylio Ffermio sut oedd y prisiau yno!

Fe fues i draw ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid wythnos diwethaf er mwyn cael bod yn lywydd mewn noson oedd yn cael ei drefnu ar y cyd gan Cynnal y Cardi a CFfI Ceredigion – “Bydda’n glyfar bydda’n garcus”.

Digwyddiad ydoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth am Iechyd a Diogelwch ar y fferm ac i rybuddio ffermwyr i fod yn fwy gofalus. Roedd nifer fawr wedi dod ynghyd gan gynnwys Gwilym Williams – dyn â gollodd ei fraich gan siafft PTO. Fe adawodd argraff fawr arnai, ac roedd ei hiwmor a’i argraffiadau ar fywyd yn ysbrydoliaeth.

Roedd fflipcam Ffermio hefyd ym Mhontrydfendigaid ac fe fydd modd cael cipolwg ar y digwyddiad ar ein gwefan ni cyn bo hir.

    08/05/2012 in Blog -


Splitter
   

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Cyfweliad gyda Steve Hughson sef Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cwmni Tryfan Organics ac Arwerthiant Fferm Pantygogle.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C