Rhaglen Amserol am Drychineb Chernobyl – Gwawr Lewis

Mae’r hinsawdd yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn eithafol ac wedi achosi difrod mawr mewn nifer o wledydd.  O ganlyniad i’r ‘Tsunami’ yn Japan, amcangyfrif bod tua 18,000 wedi colli eu bywydau, cartrefi ac adeiladau wedi eu difetha, gan gynnwys erwau ar erwau o gaeau reis.   Ond un o’r ofnau mwyaf  oedd am sefydlogrwydd y gorsaf niwclear Fukushima Daiichi –byddai modd i’w reoli?  Mae yna chwarter canrif ers y drychineb niwclear diwethaf sef Chernobyl,ac mewn rhaglen arbennig o Ffermio nos Lun byddwn yn gweld sut effaith cafodd y ddamwain yma ar Gymru.

Pan ffrwydrodd gorsaf niwclear Chernobyl yn Yr Wcráin ar 26 Ebrill 1986, roedd sgil effeithiau’r trychineb i’w teimlo ymhell o ganolbwynt y difrod. Teithiodd cwmwl o ymbelydredd ar draws Ewrop gan ollwng ei wenwyn ar y tir, a 25 mlynedd yn ddiweddarach mae ffermwyr Cymru yn dal i ddelio â’r effeithiau.

Bydd Meinir Jones, oedd ond ychydig fisoedd oed pan ddigwyddodd y drychineb, yn sgwrsio â ffermwyr Eryri a Meirionnydd ynghylch eu profiadau.  Bydd Meinir hefyd yn sgwrsio â rhai swyddogion o’r byd amaeth  a gymrodd gamau i reoli’r difrod.  Felly pum mlynedd ar hugain o flynyddoedd ers y drychineb yma, cawn wybod am eu teimladau o’r cyfnod.

Gyda’r dydd yn ymestyn mae calendr y ffermwyr ifanc yn dechrau llenwi.  Mae Diwrnod Gwaith Maes CFFI Cymru yn cael ei gynnal yn y Trallwng dydd Sadwrn, felly pob lwc i’r rhai ohonoch fydd yn cystadlu.

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter
   

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C