Ffermio wythnos hon

Mae Huw Rees o Fferm Pantygogle ger Llandysul wedi penderfynu rhoi’r gorau i ffermio ei hun gan werthu ei stoc, ac am ganolbwyntio ar fagu gwartheg i Gelli Aur.

Ar Ffermio heno bydd Alun yn ymweld â Huw a’r teulu cyn yr arwerthiant i weld y paratoadau tra bydd Meinir ar y fferm ar ddiwrnod y gwerthu.

Mae Daloni wedi ymweld â Gwyn Thomas Fferm Blaen y Nant, Nant Ffrancon sydd wedi sefydlu cwmni Tryfan Organics. Mae’n gwerthu cig eidion, moch, oen a gafr yn syth o’i fferm ac o fan bwyd ar ochr y ffordd gyferbyn â Llyn Ogwen.

Bydd Meinir hefyd yn cyfweld â Steve Hughson wrth iddo ddechrau ar ei swydd fel Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Cofiwch bod modd i chi wylio Ffermio eto drwy clicio ar y linc isod -

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?programme_id=503057079

 

 

    07/04/2011 in Uncategorized -


Splitter
   

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Cyfweliad gyda Steve Hughson sef Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cwmni Tryfan Organics ac Arwerthiant Fferm Pantygogle.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C