Rhybuddio porwyr lleol am glec ddwbl – Ceidiog Hughes

Mae porwyr yng Nghymru yn cael eu rhybuddio fod perygl iddynt golli llawer o arian os nad ydynt yn hawlio eu cyfran o grant newydd mewn pryd – gallai olygu miloedd o bunnau yr un.

Yn ôl y bobl sy’n gweinyddu’r prosiect Glastir, sy’n werth £5 miliwn, mae amser yn mynd yn brin i’r porwyr roi eu henwau i lawr.

Sefydlwyd y cynllun i ariannu system newydd i gefnogi’r gwaith o reoli a phori ar diroedd comin.

Gallai methu’r dyddiad cau ar 28 Ebrill olygu clec ddwbl a allai gostio’n ddrud i’r porwyr.

Ond i’r rheiny sy’n rhoi eu henwau i lawr erbyn y dyddiad cau mae “manteision dwbl” ar gael yn 2012 pan fydd y cynllun taliadau newydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun y mae’n cymryd ei le, Tir Mynydd.

Rhwydwaith o asiantaethau adfywio gwledig sy’n rhedeg y cynllun, sef Cadwyn Clwyd, PLANED a Menter Môn.

Mae ganddyn nhw 18 o Swyddogion Datblygu Tiroedd Comin (SDTC) wrth law ledled Cymru – pob un â chefndir ym myd ffermio neu reoli tir.

Cynghori a llywio’r rheiny sydd â hawliau pori cymwys ar diroedd comin i fanteisio ar y cynllun yw eu gwaith.

Dan Delaney yw goruchwylwyr y SDTC ar gyfer Cadwyn Clwyd ac mae ei dîm yn gwasanaethu Powys, Casnewydd, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Meddai: “Mae’r Elfen Tiroedd Comin yn gynllun sy’n sefyll ar ei ben ei hun ac os ydych yn pori eich anifeiliaid ar dir comin ac eisiau bod yn rhan o’r cynllun, mae 28 Ebrill yn ddyddiad pwysig iawn.

“Os ydych eisiau cael eich dwylo ar fwy o grantiau ar gyfer lefelau uwch y cynllun i brosiectau penodol yna rhaid i chi fod o fewn y cynllun ETC – os nad ydych yn mynegi diddordeb erbyn 28 Ebrill ni fydd eich cais yn cael ei brosesu eleni.”

Sefydlu neu ail-gyfansoddi cymdeithasau porwyr presennol yw’r allwedd, gan mai nhw fydd yn gweinyddu’r cynllun tir comin Glastir newydd dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Os ydynt yn derbyn y grant rhaid i’r porwyr ufuddhau i God Tiroedd Comin a dewis un o ddau opsiwn – symud eu stoc oddi ar y comin am 90 diwrnod yn y gaeaf (Tachwedd i Fawrth) neu gytuno ar uchafswm ac isafswm dwysedd pori.

Mae’r cynllun Glastir yn cychwyn yn Ionawr 2012 ac yn disodli cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol fel Tir Gofal a Thir Mynydd ac mae Elfen Tiroedd Comin Glastir wedi’i gynllunio i fod yn ffordd syml o gefnogi’r gwaith o gynnal a chadw tiroedd comin.

Yng Nghymru mae yna ryw 1,500 o diroedd comin cofrestredig yn ymestyn dros 175,000 hectar (45% mewn Parciau Cenedlaethol).

Bydd cymdeithasau yn gyfrifol am gynnal a chadw a gweinyddu’r pori ar y tir comin ac yn derbyn tâl o £33.60 yr hectar ar gyfer tir comin cymwys mewn Ardaloedd Llai Ffafriol a £5.60 ar gyfer costau gweinyddol a chyfreithiol, a £28 yr hectar tu allan i’r Ardaloedd Llai Ffafriol.

Gall porwyr sy’n awyddus i fynegi diddordeb yn y cynllun Glastir gysylltu â Daniel Delaney ar 07825 136592 daniel.delaney@cadwynclwyd.co.uk, Robin Griffiths 07808 767907 robin.griffiths@cdpwales.co.uk neu Stephen Bradley 07990 761382 steven.bradley@cdpwales.co.uk

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter

Gobaith yn y Tir – Lowri Thomas

‘Dyw’r ‘youngsters’ dyddie’ ‘ma ddim fel o nhw ‘slawer dydd!’ yw’r gŵyn arferol sy’n cael ei chlywed ar ein strydoedd erbyn hyn. Ni’n cael y bai am bopeth, ac fel arfer y bai ar gam! Mae’n rhyfedd sut mae cymdeithas yn peintio pawb o’n cenhedlaeth ni â’r un brwsh, ac yn ein gweld yn bobl diflas, anghymdeithasol, sy’n amharchu popeth.

Mae angen gwaredu’r agwedd hynny’n syth. Mae yna lawer o bobl ifanc, talentog, sy’n lysgenhadon gwych i gefn gwlad yn arwain y ffordd ac yn gosod esiampl dda. Maent yn gosod eu stamp yn amlwg o fewn ein cymunedau cefn gwledig yn arbennig felly trwy Fudiad y Ffermwyr Ifanc. Mae llawer ohonynt wedyn yn mynd ymlaen i fod yn arweinwyr amlwg o fewn ein cymunedau a’n cynghorau.

Dros y penwythnos bu nifer o aelodau’n cystadlu yng nghystadleuaethau siarad cyhoeddus yn Llanelwedd – enghraifft berffaith o arfer da’r Mudiad. Os gofiwch chi neithiwr fe welsom ddwy eitem am ieuenctid yng nghefn gwlad yn llwyddo, y cigydd Tomos Hopkin o Bontardawe a theulu’r Williams o Gwrtnewydd, Ceredigion. Ieuenctid talentog, dylanwadol iawn ydynt o fewn eu cymunedau sydd angen eu gwerthfawrogi.
‘Ni yw’r gobaith yn y tir,’ fel y dywed yng nghytgan anthem y Ffermwyr Ifanc. Mae’r gobaith yn parhau o hyd yn y tir yng nghefn gwlad ac mae angen cofio hynny. Dyma dyfodol cefn gwlad, ac yn sicr mae’n angenrheidiol i bobl o bob cenhedlaeth i barchu hynny, er mwyn sicrhau eu llwyddiant.

Cofiwch os wnaethoch chi golli’n rhifyn ni o Ffermio neithiwr, mae modd gwylio’r rhaglen unwaith eto y prynhawn yma am 2.00 ar S4C, neu mae modd i chi ddal i fyny drwy ymweld â gwefan www.s4c.co.uk/ffermio, ble mae hefyd cyfle i wylio Godro’r Fuwch’ a berfformiwyd gan Newshan yn ei gyfanrwydd.

LOWRI THOMAS – YMCHWILYDD

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter

Catherine Nakielny: Global Food and Farming Futures

A recent trip to London introduced me to the Foresight report ‘Global Food and Farming Futures’. The report published on the 24th of January this year and sponsored by DEFRA reflects the increasing pressure on global food production over the next 40 years and considered the views of 400 leading experts from over 30 countries across the world (http://www.bis.gov.uk/foresight/our-work/projects/current-projects/global-food-and-farming-futures).

Considering all the different pressures on land use the report highlighted the need to ensure food supplies meet the growing population as well as mitigating climate change and maintaining biodiversity and ecosystems. A section of the report discussed UK agriculture and what struck me was the recognition that efficient production of food is vital to meet these challenges and the term ‘sustainable intensification’ was used to reflect the requirement to produce food without damaging the climate or the environment (http://www.bis.gov.uk/assets/bispartners/foresight/docs/food-and-farming/regional/11-590-r1-uk-in-north-west-europe-agricultural-production.pdf). With such a wide-ranging report there are likely to be some areas of controversy or disagreement but I do hope that policy makers recognise that productive farming systems are part of the answer. I feel that investment in research and development is a fundamental element of supporting Welsh agriculture.

There has already been work done which shows that increasing animal production can be achieved in-conjunction with reducing greenhouse gas emissions for example the high sugar ryegrass species developed in Aberystwyth.

I have also been working on a project which is looking at how genetic improvement can reduce methane emissions from sheep production with the results being published soon. All in all I think that putting food production higher on the agenda is a good thing but that it is vital that the industry works together to provide solutions to the challenge of increasing production whilst ensuring sustainability and biodiversity. This is something we can offer so we just need to ensure that we are able to demonstrate this and that it is recognised and supported by both policy makers and consumers.

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter

Cyflwyniad Will Prichard ar Ffermio Llaeth – Lowri Fflur Davies (15/03/11)

Fe fues i’n ffodus yn ddiweddar i wrando ar gyflwyniad gan Will Prichard – ffarmwr llaeth o Dreletert, Sir Benfro.

Will yw’r trydydd cenhedlaeth yn ei deulu i ffermio llaeth ar fferm ‘Escalwen’ tu allan i Dreletert. Dechreuodd Will ei sgwrs drwy sôn am ei dad-cu a oedd yn berchen ar 20 o wartheg godro nôl yn 1943. Roedd clywed am hanes ei deulu a sut oedd y fferm wedi datblygu dros y flynyddoedd yn ddifyr iawn ac erbyn i Will adael yr ysgol yn 1990 roedd bellach ganddynt gyrr o 230 o wartheg. Penderfynodd Will adael yr ysgol 16 oed ac yn hytrach nag astudio ar gyfer Lefel A, gwelodd bod Mudiad y Ffermwyr Ifanc fel ei addysg pellach a diolch i’r Mudiad hynny cafodd y cyfle i deithio i Ganada er mwyn ymweld â nifer o ffermydd llaeth yno.

Ar ôl dychwelyd i Gymru, aeth Will i astudio yng Ngholeg Amaethyddol Aberystwyth cyn dod yn bartner yn y busnes teuluol. Cafodd gyfle wedyn i deithio i Seland Newydd a phan ddaeth yn ôl roedd yn llawn syniadau o’r math o barlwr godro roedd angen iddyn nhw adeiladu a datblygu adre ar y fferm. Dangosodd Will lluniau i ni o’r parlwr newydd yn Escalwen ac o’r rhai roedd wedi ei weld yn Seland Newydd – ac roedd yna bron dim gwahaniaeth ynddynt o gwbl. Roedd buddsoddi yn rhan allweddol o sicrhau bod Escalwen wedi gallu datblygu i’r hyn sydd yno heddiw, ac er bod Will yn fentrus iawn ar y pryd – deallodd bod rhaid ehangu er mwyn gwneud mwy o arian ac elw.

Penderfynodd Will wedyn mentro ac arallgyfeirio gyda ffrind iddo, Jamie gan gynhyrchu diod newydd o’r enw ‘Will and Jamie’s Yoghurt Drink’. Dwi’n cofio gweld y poteli yma ar noswaith CFfI yn Tiers Cross nôl yn Sir Benfro rhai blynyddoedd yn ôl ac ac roedd y bois lleol i gyd yn awyddus i flasu’r cynnyrch sef y menter ‘gwallgof’ newydd gan y ffermwyr uchelgeisiol! Serch hynny, dwi ddim yn cofio beth oedd y farn! Y syniad wrth gwrs oedd i allu talu mwy i ffermwyr am y llaeth; ond ar ôl sbel dyma Will yn penderfynu rhoi’r gorau i’r busnes gwneud diodydd a symud ymlaen i gyferiad arall sef wrth gwrs ehangu’r fferm llaeth!

Erbyn hyn, mae Will yn cyflewni llaeth yn Sir Benfro trwy marchnad cwmni ffrwythau a llysiau lleol. Mae dros hanner y llaeth mae’n ei gynhyrchu yn cael ei farchnata yn y ffordd yma, ac mae hyn yn plesio Will ar hyn o bryd. Heddiw yn 2011, mae Will a’i dîm yn godro dros 1000 o wartheg y dydd ac mae’n gobeithio gallu ehangu hyn i 2300 yn y dyfodol.
Teimlai Will bod magu talent ifanc yn eithriadol o bwysig a hynny er mwyn rhoi’r hwb iddyn nhw eisiau aros yn y sector amaeth. Mae’n bwysig bod y bobl ifanc hyn yn cael eu gwthio a’i datblygu a bod y ffermwyr yn rhoi’r cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb adref ar y fferm yn hytrach na’u gyrru i ffwrdd.

Aeth Will ymlaen i sôn am brisau llaeth ac yn benodol ei fod yn grediniol bod angen i’r ffermwr dderbyn 35.2c y litr am eu llaeth er mwyn gallu cynhyrchu yn effeithiol a chael digon o arian dros ben ar gyfer y teulu – er bod y ffermwr ar hyn o bryd m’ond yn derbyn 28c y litr ar gyfartaledd. Fe fyddai’r cynnydd mae Will yn awgrymu felly yn dipyn o naid! Er hynny, hyd yn oed os byddai ffermwyr yn derbyn 35.2c y litr mae hyn dal yn llai na cost litr o ddwr yn yr archfarchnad! Ydy hynny felly’n deg? Er bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn rhoi bai ar y Llywodraeth ac unrhywun arall ar ran y prisau isel a gofal gwael, mewn gwirionedd bai y ffermwyr yw hyn i gyd yn ôl Will – a hynny oherwydd nad ydynt yn ddigon heriol yn eu gofynion yn y lle cyntaf a nad ydynt yn tynnu at ei gilydd am well telerau.

Er yr anhawster sydd yn y diwydiant ar hyn o bryd, pwysleisiai Will bod amseroedd gwell i ddod. “Farming is about to get trendy” meddai Will. Gyda’r byd angen mwy o fwyd, a’r poblogaeth yn debygol o gynyddu yn aruthrol dros y blynyddoedd nesaf – does neb yn gallu fforddio i droi eu cefnau mwyach ar y ffermwyr. Mae Will yn gweld dyfodol da i Gymru, ond mae’n eithriadol o bwysig fod pawb yn tynnu at ei gilydd ac yn cyd-weithio- yn rhannu eu gobeithion a’u problemau. Dyma’r unig ffordd rydyn ni fel cenedl yma yng Nghymru yn mynd i allu oroesi yn y byd cystadleuol sydd ohoni erbyn hyn.

Er yr oeddwn i’n adnabod Will fel ffermwr da ac awyddus cyn i mi fynd i wrando arno, roedd ei gyflwyniad wedi fy ngwir ysbrydoli. Mae e’n ddyn gyda obeithion mawr am ddyfodol y sector amaeth, ac yn un sy’n bendant o lwyddo yn ei waith beth bynnag digwyddith. Mae Will dal yn ifanc ac mae dyfodol da o’i blaen; ac mae magu talent debyg i Will yn eithriadol o bwysig er mwyn i’r sector laeth allu ffynnu yn y dyfodol. Y broblem yw bod ddim digon o bobl fel Will yn cael eu cydnabod o fewn y sector, ac dyw pawb chwaith ddim yn barod i fentro fel mae Will wedi ei wneud. Er hynny, dwi’n siwr bod nifer o ffermwyr sydd wedi gwrando arno yn siarad wedi newid eu perspectif am bethau a meddwl am sut y galla nhw newid y ffordd y maent yn ffermio. Y cam nesaf yw newid y freuddwyd honno i realiti – a hynny’n sydd ar goll yng nghefn gwlad Cymru ar hyn o bryd.

Gyda llaw… mae Will yn ddyn sengl ar hyn o bryd ac yn edrych am gariad. Dwi’n siwr ar ôl darllen yr uchod y bydd sawl un ohonoch chi â diddorodeb yn ei gwrdd – felly cysylltwch os mae’r awydd yno!

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter

Sioe Wanwyn Riverlea

Ar ôl gaeaf llonydd o ddim gorfod dilyn tractorau ar yr hewl wrth fynd i’r gwaith, mae gwaith y tractors yn dechrau cynyddu yn nhymor y Gwanwyn wrth i’r ffermwyr hau gwrtaith, gwasgaru dom a pharatoi’r tir ar gyfer y cynhaeaf, felly oedd hi’n adeg ddelfrydol i Riverlea gynnal ei sioe gwanwyn. Ac roedd yna wledd i’r llygad i’r mil pum cant o bobl wnaeth heidio o Gaerdydd i Aberystwyth i faes y sioe, Nantyci, ar gyrion tref Caerfyrddin i weld y peiriannau diweddaraf.

I ferch sydd ddim yn deall rhyw lawer am dractors a pheiriannau amaethyddol, roedd y Sioe yma’n dipyn o agoriad llygad. Peidiwch a’n camddeall , dwi’n arfer gweld tractors ar y clos adref ond ddim byd tebyg i rhain. Fel popeth arall o’n cwmpas, mae peiriannau yn fwy ac yn llawer mwy pwerus â’r dechnoleg diweddaraf yn ganolog i’w gwneuthuriad gyda systemau radio, ‘air con’ i enwi ond ychydig o’r ecstras sy’n dod yn y peiriannau modern yma.

Er fy mod i heb brynu unrhyw beth yn y sioe, roedd hi’n sicr yn agoriad llygad a dysgais llawer am y peiriannau. Fe wnes i gymryd ffansi at un peiriant, ond ddim yn rhy siwr a bydde ni’n ddigon medrus i’w reoli! Chi’n hoffi?

    31/05/2011 in Dweud eich dweud -


Splitter

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C