Gyda’r haul wedi bod yn disgleirio dros yr wythnosau diwethaf mae cefn gwlad wedi bod yn brysur! Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr wedi bod wrth y silwair, gyda nifer yn cymryd mantais o’r tywydd braf i dorri’r gwair yn gynt na’r arfer.
Wrth gwrs, mae’r haul yn golygu cyfle i nifer fawr ohonom gan gynnwys y ffermwyr i fod tu allan yn gweithio – boed ar y tir, gyda’r anifeiliaid, yn yr ardd neu o gwmpas y ty. Ar Ffermio neithiwr fe welon ni eitem ar gancr y croen a’r risg sydd o weithio tu allan heb wisgo eli haul neu gorchuddio’r croen. Mae ystadegau erbyn hyn yn dangos bod mwy o ddynion na menywod yn marw o gancr y croen ac felly mae’n eithriadol o bwysig i adnabod yr arwyddion yn gynnar er mwyn ceisio lleihau’r risg cyn iddi fod yn rhy hwyr.
Ar y rhaglen neithiwr roedd nifer o’r ffermwyr ym Marchnad Stoc Caerfyrddin yn cyfaddef nad oeddynt byth yn ystyried gwisgo eli haul er eu bod allan yn yr awyr agored yn ddyddiol. Roedd Dr Nia Davies yno hefyd yn rhoi cyngor – ac mae’n bosib gweld fideo fer o’r cyngor hyn ar ein gwefan ni.
Mae aelodau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws y wlad ar hyn o bryd wrthi yn ymarfer ac yn paratoi ar gyfer cystadlu yn eu Rali Sirol. Cynhaliwyd y Rali gyntaf eleni yn Nghaerfyrddin dros y penwythnos a hynny ar gae Sioe Nantyci. Roedden ni yno yn ffilmio ar gyfer Ffermio nos Lun nesaf tra roedd Terwyn yno hefyd gyda ‘fflip fideo Ffermio’ ar gyfer y wefan. Pob hwyl hefyd i weddill Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wrth iddyn nhw gystadlu yn eu Rali Sirol nhw dros y misoedd nesaf!
Er mwyn gweld yr adroddiad arbennig o rali CFfI Sir Gâr, neu gwylio cyngor Dr Nia Davies ar gancr y croen; ewch draw i’n wefan ni sef www.ffermio.tv gan glicio ar y pennawd ‘Gwyliwch Eto’.
Lowri Fflur Davies – Ymchwilydd Ffermio
Gwartheg Prin yn denu cynulleidfa newydd yng Ngŵyl Tyddyn a Gardd
Mae preswylwyr hynaf Parc Dinefwr yn mynd ar daith i’r Ŵyl Tyddyn a Gardd yn Llanelwedd am y tro cyntaf eleni dros benwythnos Mai’r 20fed a’r 21ain.
Bydd gwartheg gwyn hynafol Dinefwr yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn Llanelwedd ac mae’r Warden Wyn Davies yn gryf o’r farn bod hyn yn gam pwysig.
“ Y gwartheg hyn yw’r prinnaf o’r prin,” meddai Mr Davies. “ Maen nhw’n rhan annatod o hanes Cymru. Pan wnaeth Hywel Dda ddeddfau i Gymru, defnyddiwyd y gwartheg hyn fel arian. Talwyd degymau a dirywion drwy’r gwartheg hynafol yma a Dinefwr.
Maen nhw hefyd yn rhan o lên gwerin Cymru. Yn yr ardal hon mae gennym hen chwedl am Lyn y Fan Fach, lle priododd hen ffarmwr â menyw a wnaeth ddod allan o’r llyn gyda gwartheg yn ei dilyn. Cyfeiriodd barddoniaeth y cyfnod at deirw gwyn o lys y brenin, a’r llys hwnnw oedd Dinefwr.”
Bellach, mae yna 34 o wartheg gwyn hynafol, gan gynnwys stoc ifanc yn y Parc. Bydd dwy heffer ifanc yn mynd i’r ŵyl a bydd yna doreth o wybodaeth i’r cyhoedd yn yr ŵyl, felly piciwch draw i’w gweld yno eleni. Y gobaith yw y byddant yn gallu dychwelyd i’r
Ŵyl y flwyddyn nesaf, ond y tro nesaf, maent yn gobeithio cystadlu gyda’r gwartheg gwyn.
Mae’r gwartheg yn wyn i gyd heblaw am eu trwyn, traed a blaen eu cyrn. “Yn anffodus, bu rhaid gwerthu gwartheg Dinefwr yn y saithdegau” dywedodd Mr Davies, “ond yn 1992 / 1993 fe ail-gyflwynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gwartheg gwyn nôl i’r parc o’r un llinellau gwaed”.
Gellir gweld y gwartheg ym Mharc Dinefwr drwy’r flwyddyn.
Mewn ychydig ddiwrnodau bydd sylw’r byd wedi eu hoelio ar y briodas frenhinol wrth i’r Tywysog William briodi â Kate Middleton yn Abaty Westminster, Llundain. Ar ôl iddynt briodi, byddant yn dychwelyd i fyw i Ynys Môn lle mae’r Tywysog yn gweithio fel peilot i’r RAF, a’r ynys hon fydd canolbwynt Ffermio mewn rhaglen arbennig ar yr 2il o Fai.
Ynys Môn yw’r ynys fwyaf yng Nghymru ac mae hi’n ryw 20 milltir o led ac yn gartref i ryw 2000 o ffermwyr. Adnabyddir yr ynys fel Môn Mam Cymru oherwydd yn yr oesoedd canol mi roedd tiroedd ffrwythlon yr ynys yn tyfu cnydau ac yn cynhyrchu llawer iawn o fwyd – digon yn wir i fwydo Gogledd Cymru!
Ac wrth sôn am fwyd ar y rhaglen bydd Daloni ac Alun yn cwrdd â nifer o gynhyrchwyr ym marchnad ffermwyr Porthaethwy gyda Daloni hefyd yn cwrdd â dau o ohonynt ar eu ffermydd. Wrth fynd o amgylch yr ynys fe fydd Alun yn ymweld â un o ffermwyr mwyaf blaenllaw ardal Llanfechell, tra bydd Meinir yn dysgu mwy am gwningod angora.
Mae Ynys Môn yn ôl un gohebydd teithio yn y wasg wedi cael ei feirniadu fel y lle mwyaf deniadol i ymweld ag e eleni. Mae’n siŵr bod yr holl sôn am gysylltiadau brenhinol y Tywysog William a’r ardal yn rhan o’r apêl, ond mae’r ynys yn atyniad yn ei hun ac yn denu miliwn a hanner o ymwelwyr yn flynyddol.
Felly cofiwch wylio ar Mai 2 a hynny yn ychydig yn hwyrach na’r arfer am 21.15. Cofiwch hefyd am ein gwefan ni, lle mae modd i chi weld adroddiadau ar rai digwyddiadau yng Nghymru.
Mae’r hinsawdd yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn eithafol ac wedi achosi difrod mawr mewn nifer o wledydd. O ganlyniad i’r ‘Tsunami’ yn Japan, amcangyfrif bod tua 18,000 wedi colli eu bywydau, cartrefi ac adeiladau wedi eu difetha, gan gynnwys erwau ar erwau o gaeau reis. Ond un o’r ofnau mwyaf oedd am sefydlogrwydd y gorsaf niwclear Fukushima Daiichi –byddai modd i’w reoli? Mae yna chwarter canrif ers y drychineb niwclear diwethaf sef Chernobyl,ac mewn rhaglen arbennig o Ffermio nos Lun byddwn yn gweld sut effaith cafodd y ddamwain yma ar Gymru.
Pan ffrwydrodd gorsaf niwclear Chernobyl yn Yr Wcráin ar 26 Ebrill 1986, roedd sgil effeithiau’r trychineb i’w teimlo ymhell o ganolbwynt y difrod. Teithiodd cwmwl o ymbelydredd ar draws Ewrop gan ollwng ei wenwyn ar y tir, a 25 mlynedd yn ddiweddarach mae ffermwyr Cymru yn dal i ddelio â’r effeithiau.
Bydd Meinir Jones, oedd ond ychydig fisoedd oed pan ddigwyddodd y drychineb, yn sgwrsio â ffermwyr Eryri a Meirionnydd ynghylch eu profiadau. Bydd Meinir hefyd yn sgwrsio â rhai swyddogion o’r byd amaeth a gymrodd gamau i reoli’r difrod. Felly pum mlynedd ar hugain o flynyddoedd ers y drychineb yma, cawn wybod am eu teimladau o’r cyfnod.
Gyda’r dydd yn ymestyn mae calendr y ffermwyr ifanc yn dechrau llenwi. Mae Diwrnod Gwaith Maes CFFI Cymru yn cael ei gynnal yn y Trallwng dydd Sadwrn, felly pob lwc i’r rhai ohonoch fydd yn cystadlu.
Rhwystyr mawr I dŵf y farchnad organig yw’r ddelwedd fod bwyd organig yn ‘elite’, ac ere i fod yn wir I’r Tywysog Siarl fod yn frwd dros bopeth organig, gwelir gwragedd beichiog a mamau plant ifanc yn prynu bwyd organig hefyd. Nid yw’r person sy a chonsyrn am ansawdd bwyd yn talu llawer o sylw I adroddiad yr FSA a ddywedodd bethau negyddol am fwyd organig, oherwydd maen’t yn gwybod fod y Safonau Organig yn gwahardd ffermwyr organig rhag defnyddio y mwyafrif o gemegion sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin mewn amaeth confensiynol.
Er mwyn codi’r ymwybyddiaeth fod bwyd organig yn llesol I’r unigolyn a’r amgylchedd, lansiwyd ymgyrch:’Pam rwy’n hoffi’r organig.’
Gweler: http://www.whyiloveorganic.co.uk/
Fydden I wrth fy modd yn cael eich sylwadau…………………
Phil Jones, Canolfan Organig Cymru.
Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn
Cyfweliad gyda Steve Hughson sef Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cwmni Tryfan Organics ac Arwerthiant Fferm Pantygogle.