O RUTHUN I RUFAIN – I ARBENIGO MEWN MELONAU

Yn y gyfres Ffermio ar nos Lun, 5 Medi am 20:25 byddwn yn cwrdd â’r Dr Elen Jones-Evans sy’n wreiddiol o Landyrnog ger Rhuthun ond sydd bellach yn gweithio yn y byd amaeth yn Yr Eidal.

Mae Elen bellach yn gweithio fel arbenigwr ar feithrin a thyfu Melonau newydd i gwmni Monsanto Vegetable Seeds yn Nettuno, ger Rhufain yn yr Eidal.

Yn y rhifyn arbennig hwn, fe fydd gohebydd Ffermio Terwyn Davies yn ei dilyn hi wrth ei gwaith bob dydd a chawn flas hefyd o’i bywyd teuluol a chymdeithasol gartre yn Nettuno.

Mae Elen, 34 oed, yn byw yn Yr Eidal ers dros ddegawd, yn briod gydag Eidalwr Matteo Mazzi ac mae ganddynt un ferch ddwy oed, Alaw Mazzi. Roedd hi’n byw yn Parma yn y Gogledd am 10 mlynedd ac yna symudodd i Nettuno yn y De yn 2010.

Eglurodd Dr Elen: “Rwy’n mwynhau’r gwaith yn fawr iawn oherwydd ei fod yn amrywiol iawn ac yn sialens fawr gan fy mod yn gorfod datblygu cynnyrch addas ar gyfer gwahanol segmentau marchnadoedd fel tai gwydr, caeau lleol ac yn y blaen. Mae’r swydd yn her fawr gan ei bod yn golygu defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth, gan gynnwys Agronomeg, Geneteg, Patholeg Planhigion a Data’r Farchnad.”

Fe astudiodd am radd gyfun mewn Bioleg Amgylcheddol ac Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe cyn gwneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Parma mewn Geneteg Amaethyddol.

Ar ôl gwneud doethuriaeth ym Mhrifysgol Parma, aeth Elen i weithio gyda chwmni prosesu tomatos yn Parma, lle’r oedd yn cynnal profion ar y cynnyrch yn ystod y broses ac ar y cynnyrch gorffenedig.

Roedd gan Elen ddiddordeb mawr yn y camau cyn i’r tomatos gyrraedd y ffatri, ac fe ddaeth y cyfle i roi’r wybodaeth ar waith trwy wneud gwaith ymchwil ar y melonau. Ymhen hir a hwyr, daeth cyfle i ehangu’r gwaith a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf wrth weithio i Monsanto Vegetable Seeds fel Bridiwr Melonau.

Dywed bod y diwylliant a’r ffordd o fyw yn yr Eidal yn hollol wahanol i Gymru, ond un peth sy’n gyffredin yw’r pryder economaidd.

“Mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn cael effaith fawr ar bris mae’r ffermwr yn ei dderbyn am y cynnyrch. Nid ydynt yn gallu rhagweld pris y farchnad gan ei fod yn amrywio llawer. Mae nifer o ffactorau eraill heblaw’r cyflwr economaidd yn effeithio’r pris, fel straeon negyddol yn y cyfryngau am gynnyrch, fel y digwyddodd gyda’r ciwcymbrs yn Yr Almaen a thywydd gwael.”

Mae Ffermio yn gynhyrchiad gan gwmni Telesgop ar gyfer S4C. Am fwy o fanylion ewch i s4c.co.uk/ffermio

    02/09/2011 in Y Rhaglen -


Splitter

Taith Ffermio 2011

4 Gorffennaf 2011
Clwb y Wellman’s, Stad Ddiwydiannol, Llangefni , LL77 7JA
19.30

WATCH NOW

5 Gorffennaf 2011
Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, Rhuthun, LL15 2ND
19.00 – 20.00

6 Gorffennaf 2011
Neuadd Glantwymyn Glantwymyn Machynlleth Powys SY20 8LX
19.00 – 20.00

7 Gorffennaf 2011
The Whitehouse Country Inn, Pontsenni, Aberhonddu, LD3 8RP
19.00 – 20.00

11 Gorffennaf 2011
Neuadd Ddinesig Llandeilo, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW
19.00 – 20.00

12 Gorffennaf 2011
Ysgol Gynradd Griffith Jones, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4BT
19.30

    20/06/2011 in Y Rhaglen -


Splitter

Cofio Chernobyl

Mae’r dinistr a achosodd y daeargryn a’r tsunami yn Siapan i rai o orsafoedd pŵer niwclear y wlad wedi tynnu sylw at beryglon ynni niwclear. Wythnosau ar ôl y trychineb yno, ac rydym yn nodi 25 mlynedd ers trychineb Chernobyl. Mae rhaglen arbennig Ffermio felly’n amserol dros ben, fel yr eglura’r Uwch Gynhyrchydd, Richard Rees.

Roedd yr ymateb yr un peth gan bob un y buom yn eu holi. Ffermwyr, gwyddonwyr, gwleidyddion – pawb yn synnu bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers trychineb Chernobyl yn yr Iwcrain.

Fe ffrwydrodd adweithydd rhif 4 atomfa Chernobyl ger dinas Pripiat ar 26 Ebrill 1986. Mae canlyniadau’r diwrnod hwnnw yn amlwg hyd heddiw, yn yr Iwcrain ac yma yng Nghymru.

Fe fydd gohebydd Ffermio, Meinir Jones, yn olrhain yr hanes ac yn pwyso a mesur faint o effaith mae’r ddamwain wedi ei chael ar ffermwyr yma yng Nghymru.

Am ddyddiau, yn dilyn y ddamwain, fe fu’r awdurdodau yn Rwsia yn gyndyn iawn i gyfaddef bod unrhywbeth o’i le. Roedd y llywodraeth Sofietaidd yno ar ei phengliniau ac yn ofni’r embaras a’r gwarth o gyfaddef bod damwain wedi digwydd.

Fe gymerodd hi 36 awr i’r awdurdodau symud trigolion yr ardal o’u cartrefi, gan ddweud wrthynt am beidio mynd a dim o’u heiddo gyda nhw, oherwydd bydden nhw’n dychwelyd mewn diwrnod neu ddau. Mae eu dillad a’u heiddo yn dal i’w gweld hyd heddiw yn y tai gwag tu ôl i’r ffens sydd wedi ei chodi i greu ardal waharddedig am ugain milltir o gwmpas yr adweithydd.

Erbyn i’r awdurdodau yno gyfadde’, roedd y ffrwydrad, a’r tân a ddaeth yn ei sgil, wedi chwydu cwmwl o fwg ymbelydrol i’r awyr, a gafodd ei gario gan y gwynt ar draws gogledd Ewrop. Yn anffodus, fe ddisgynnodd y glaw, a’r ymbelydredd o’r cwmwl, ar yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cumbria yng ngogledd Lloegr a gogledd Cymru. Roedd canlyniadau’r gawod o law yna yn drychinebus i dros bum mil o ffermwyr yng ngogledd Cymru gan arwain at waharddiad i atal symud a gwerthu dwy filiwn o ddefaid.

Mae gan bob un o’r ffermwyr fuon ni’n siarad â nhw atgof clir o ble oedden nhw a sut glywon nhw am y gwaharddiad. Roedd Cyril Lewis, Penmachno ym marchnad Llanrwst; Emlyn Roberts Esgairgawr, Rhydymain newydd orffen yn y coleg amaethyddol yn Aberystwyth a Glyn Roberts Betws y Coed ond wedi cymryd y fferm gan ei dad ers tair blynedd.

Mae’r ddamwain wedi gwneud y ffermwyr yn ymwybodol iawn o ddiwydiant niwclear. Meddai Glyn Roberts: “I feddwl bod yr ymbelydredd wedi dod yr holl ffordd o Chernobyl i Ogledd Cymru’n dychryn chi, oherwydd beth fyddai’r effaith petai’r trychineb wedi digwydd mewn gorsaf niwclear yng ngogledd Cymru?”

Yn wyneb yr argyfwng gyda’r adweithyddion niwclear yn Siapan, mae pryder ymhlith y ffermwyr y boun ni’n siarad â nhw y gallem wynebu Chernobyl arall yn Ewrop. Dyw’r ffermwyr ddim eisiau i’r genhedlaeth nesa’ wynebu’r un problemau ac argyfyngau â nhw.

Roedd Syr Wyn Roberts, gweinidog yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd, yn cofio cael ei alw i gyfarfod brys gyda’r gweinidog amaeth Michael Joplin yn Llundain, i drafod sut i ymdrin â’r sefyllfa.

Canlyniad y cyfarfod oedd dynodi ardaloedd o’r gogledd lle byddai neb yn cael symud eu defaid a phenderfynu sganio defaid cyn eu gwerthu i sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth fwyta cig oen. Mae nifer yn cofio’r profiad poenus o weld defaid yn cael eu lladd i’r cig gael ei anfon at labordy i gael ei brofi am ymbelydredd. Mae’r iawndal am symud unrhyw ddafad o’r daliad yn dal yn £1.35 y pen yn unig hyd heddiw.

Atgofion gwahanol iawn sydd gan y newyddiadurwr Eifion Glyn a’r aelod seneddol Elfyn Llwyd. Aethant i Chernobyl ym 1995 i weld y difrod yno, a chafodd y ddau eu synnu gan y diffyg cynnal a chadw ar yr adweithyddion niwclear a’r diffyg gofal am y trigolion. Meddai Elfyn Llwyd, “Pan gerddais i drwy sgwâr Pripyat, doedd dim aderyn yn yr awyr byth, na deilen ar goeden. Roedd doliau bach ar y llawr a recordiau wedi torri, a dyna’r ffordd ddaru nhw neud, dweud dim, ar funud ola’ hel pobl o’u cartrefi heb adael cyfle iddyn nhw fynd a’u petha’ bach gyda nhw”.

Fe glywsom ni hefyd gan y gwyddonydd yr Athro Deri Thomas, sy’n cyfarfod yn gyson gyda phobl sy’n gweithio yn Chernobyl. Mae yna ddamcaniaeth ymhlith y gwyddonwyr fod tuedd bellach yn yr Iwcrain i briodoli pob dim gwael ar Chernobyl gan anwybyddu’r tlodi enbyd yno,

Mae gorsaf bŵer Chernobyl yn dal i weithio ac mae arbenigwyr o’r diwydiant niwclear ledled y byd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy’n digwydd yno. Mae’r awdurdodau’n paratoi i osod clawr dur dros ben adweithydd rhif pedwar ar gost o £600m.

Ac yna, wrth i ni baratoi’r rhaglen, dyma drychineb yn digwydd yn Siapan. Daeargryn a tsunami yn lladd cannoedd ar filoedd o bobl a dinistrio adweithydd niwclear Fukushima.

Gwnaeth Elfyn Llwyd y sylw bod yr awdurdodau yn Siapan yn defnyddio’r un technegau amrwd i ymdrin â’r sefyllfa yn Fukushima ag y defnyddiwyd yn Chernobyl ym 1986, sef tywallt dŵr a thywod dros yr adweithydd o’r awyr.

Pum mlynedd ar hugain wedi damwain Chernobyl, mae’r ymbelydredd yn dal i fodoli ar fryniau yn y gogledd, mae defaid yn dal i gael eu sganio ac mae damweiniau niwclear yn dal i ddigwydd. Mae llawer yn gofyn a oes unrhyw wersi wedi cael eu dysgu dros y chwarter canrif ddiwethaf?

    31/05/2011 in Y Rhaglen -


Splitter

Ffermio yn cyflwyno Cyflwynwraig Newydd!

Fe fydd cyflwynydd newydd yn ymuno â thîm gohebu’r gyfres boblogaidd Ffermio o ddydd Llun, 24 Ionawr (8.25pm) ymlaen.

Mae Meinir Jones o Gapel Isaac ger Llandeilo yn camu o flaen y camera am y tro cyntaf ar ôl pedair blynedd yn gweithio fel cyfarwyddwr ac ymchwilydd ar y gyfres amaeth a chefn gwlad.

Mae’n dilyn ôl traed Iola Wyn a ffarweliodd fel cyflwynydd ar y gyfres nos Lun diwethaf ar ôl chwe blynedd fel aelod o’r tîm.

Mae Meinir, 25, yn ferch fferm o Fferm Maesteilo, Capel Isaac. Yn ogystal â gweithio ar Ffermio i gwmni cynhyrchu, Telesgôp yn Abertawe, mae’n gweithio ar y fferm defaid a bîff bob cyfle y caiff hi gyda’i rhieni Eifion a Doris Jones a’i brawd 21 oed, Eirian.

Mae Meinir yn edrych ymlaen yn arw at yr her o gyflwyno ar Ffermio – er yn cyfaddef ei bod ychydig yn nerfus.

“Mae Ffermio a chefn gwlad yn agos iawn at fy nghalon i ac felly fi wrth fy modd yn cael y cyfle i ohebu ar y gyfres Ffermio. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gwrdd â chymeriadau diri ledled y wlad, a sgwrsio â phobl sy’n angerddol am gefn gwlad.” meddai Meinir.

Mae Meinir yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd ac mae’n ddyledus iawn i’r mudiad am roi’r profiad a’r hyder iddi ym mhob agwedd ar ei bywyd.

“Dwi’n aelod o glwb Llanfynydd ers o’n i’n ddeg mlwydd oed, ac wedi derbyn cyfleon bythgofiadwy, yn ogystal â chreu ffrindiau oes. Mae’n sefydliad sy’n meithrin sgiliau mwyaf gwerthfawr bywyd i bawb sy’n dod i gysylltiad â’r mudiad,” esbonia Meinir.

“Trwy’r mudiad dwi wedi cael cyfle i feirniadu stôc, canu, actio, siarad yn gyhoeddus, coginio i hyd yn oed cneifio defaid! Wy wedi magu hyder i berfformio a chyflwyno ar lwyfan, a rhoi cynnig ar gystadlaethau bydden ni byth wedi meddwl trio heblaw am y clwb.”

Mae gan Meinir ddiadell ei hun o ddefaid Balwen Cymreig y mae hi’n mwynhau eu harddangos mewn amryw i sioe yn ystod yr haf.

Fe fydd y gwylwyr a welodd y gyfres Seren Bethlehem yn gyfarwydd â Meinir gan taw hi oedd yn chwarae rhan Mair yng nghynhyrchiad ym mhentref Bethlehem. Mae hi hefyd yn mwynhau perfformio fel rhan o ddeuawd canu oamgylch y wlad.

Mae nawr yn ffaelu aros am gyflwyno ei heitem gyntaf– stori ddifyr am sganio defaid lan yn Llansannan, ger Dinbych.

“Rwy’ eitha nerfus mae’n rhaid cyfadde’- ond dwi wedi cael pob help a chefnogaeth gan y criw yn Telesgôp a does dim gwell bywyd i gael na byw allan yn y wlad a chynhyrchu bwyd o safon!” ychwanegodd.

    11/02/2011 in Y Rhaglen -


Splitter
   

Categorïau


Cystadleuaeth y Trelars


Newyddion Diweddaraf

Blog Meinir 03-05-2013

Gyda hi bellach yn fis Mai, mae’n golygu bod Ralïau’r Ffermwyr Ifanc ar y gorwel ac mae Rali Sir Gâr fory sef Mai 4ydd yn

Mwy

Newyddion Allanol

Fideo Diweddaraf

Cyswllt Ffermio ATV

Gweld y cyfan...

Ffermio wythnos hon...

Mae Ffermio yn cael hoe am bythefnos, ond fe fyddwn ni nôl ar S4C ar nos Lun 3 Mehefin.

[Darllen mwy]


Ffermio - Produced by Telesgop for S4C