Prisiau llaeth

Pwnc trafod amlwg iawn yn ddiweddar yw prisiau llaeth! Mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn sef Rwsia’n atal mewnforion llaeth, Tsiena ddim yn prynu cymaint o laeth ag yr oedd pawb wedi disgwyl, ac mae cynnydd wedi bod yng nghynhyrchiant llaeth y byd, yn bennaf gan nad oes argyfwng mawr wedi bod yn y byd o ran tywydd gwael neu sychder.

 

Ar gyfer yr eitem laeth gyntaf fe fues i’n ffilmio gyda thri ffermwr llaeth gwahanol. Roedd Aled Jones Cadeirydd Pwyllgor Llaeth NFU Cymru’n ddiolchgar i bawb sy’n prynu llaeth yn ein siopau ni, ond yn galw ar y cwsmeriaid i herio’r siopau. Mae digon o bobl yn prynu coffi a thê sy’n ‘Fair trade’ ond faint o’r llaeth ni’n prynu sy’n ‘Fair trade?’, erfyn oedd Aled arnom ni i holi’r siopau: a ydy ein ffermwyr llaeth ni’n cael pris teg am yr hyn mae’n nhw’n cynhyrchu? Ni gyd yn ymwybodol o’r hen ddadl bod llaeth yn rhatach na dŵr i brynu, sydd ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.  Meddyliwch am yr oriau o waith caled, a’r blynyddoedd o fridio sydd angen i gynhyrchu peint o laeth ac er mwyn sicrhau cyflenwad cyson bob dydd.

Tra bod ni’n ffilmio gydag Aled, fe ddaeth y newyddion bod First milk yn gohirio taliadau’r ffermwyr am bythefnos. Roedd hwn yn dipyn o sioc iddo ac i’r 1100 o gyflenwyr sydd gyda’r cwmni ym Mhrydain (400 yng Nghymru). Un o’r cyflenwyr yma yw Michael James fferm Nantyrhebog ym Mancyfelin sydd dim ond wedi dechrau godro tair blynedd yn ôl.  Yn sicr mae wedi gweld gwahaniaeth mawr yn ddiweddar, yn mynd i golli tua 6 mil o bunnoedd y mis o ganlyniad i’r gostyngiadau ym mhris y llaeth.

 

Y trydydd ffermwr imi ymweld ag oedd Mr Rhishiart Lewis sy’n godro cant a hanner o wartheg ar fferm Coedcae Gwyn, ym Mhwllheli. Tanlinellodd Rhishiart y ffaith mai tua 20c y litr oedd pris llaeth nol ym 1994 pan ddaeth y bwrdd llaeth i ben, ac felly fe ofynnodd gwestiwn digon teg – pa ddiwydiant arall byddai’n hapus i dderbyn yr un maint am eu cynnyrch ag yr oedden nhw’n derbyn 20 mlynedd yn ôl.

 

Ar raglen nos Lun diwethaf yr oeddwn mewn arwerthiant arbennig o wartheg Holstein ag Ayrshire ym marchnad da byw Caerfyrddin. Yma fe werthodd Brian ac Ann a’r teulu fferm Clunmelyn yn Sir Gâr, 150 o wartheg a hynny wedi bod dan warchae TB am gyfnod hir a hefyd gan fod prisiau llaeth mor wael ar hyn o bryd. Doedd y teulu ddim yn gweld pwrpas gweithio diwrnodau 15 awr i gynhyrchu llaeth ar golled.  Roedd hi’n bleser gweld y gwartheg i gyd, ac fe gafodd y teulu gefnogaeth dda ac arwerthiant y dylen nhw fod yn falch iawn ohono.

Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn Newydd dda i chi gyd, gan obeithio nad ydych chi wedi stwffio gormod, ond wedi cael ychydig o gyfle i ymlacio dros yr ŵyl. Mae Gary’r gŵr, yn sganio defaid adeg yma o’r flwyddyn, ac felly’n gyfnod prysur iawn iddo. Yn gyffredinol eleni mae’r canran sganio ychydig yn is, ond mae’n gynnar eto gyda llawer o ddefaid ar ôl i’w sganio ar hyd a lled y wlad.

Mae’r Nadolig wedi gwibio heibio, gyda thua 8 miliwn o goed Nadolig wedi cael eu prynu, a gwerth 8,000 tunnell o bapur lapio, sy’n gyfystyr â 50,000  o goed. Dyma’r adeg lle mae llawer yn sylweddoli eu bod wedi gwario gormod ac yn dechrau edrych ar dorri nôl, ac yn gyfle i edrych ar wastraff. Yr hyn sydd yn fy nghythruddo i, yw’r ffaith bod tua biliwn o bobl yn newynu yn y byd, tra bod traean o’r bwyd ni’n cynhyrchu yn cael ei wastraffu trwy gydol y gadwyn fwyd. Mae hyd yn oed rhai archfarchnadoedd yn gwrthod llysiau a ffrwythau sy’n hollol iawn i fwyta, oherwydd nad ydyn nhw y maint neu’r siâp delfrydol ar gyfer ei gofynion hwy. Mae’r holl wastraff yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd hefyd, gyda’r cyfanswm o dir sydd angen i dyfu cynnyrch sy’n cael ei wastraffu mewn blwyddyn, tua’r un maint a gwlad Mecsico.

Mae 2014 wedi bod yn fwyddyn i’w chofio imi rhwng popeth, ac wrth gwrs yn newid byd wrth imi briodi a symud i ardal Pentrecwrt i fyw. Dwi wedi cael croeso gwresog yno ac yn ddiolchgar iawn am hynny. Ond wrth edrych nôl ar y diwydiant amaethyddol y llynedd, fe ddechreuodd yn yr un modd ag y gorffennodd, gyda’r ansicrwydd ynghlyn â sut fydd cynllun y taliadau Sylfaenol yn cael ei ddosbarthu ar draws Cymru yn 2015. Yn ystod diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredinol, mae llawer wedi bod yn dadlau’r faith bod angen diwygiad sy’n raddol, er mwyn lleihau’r effaith ar fusnesau wrth newid o’r taliadau hanesyddol i’r taliadau ar sail arwynebedd. Beth bynnag sy’n digwydd gadewch inni gyd obeithio y bydd bob opsiwn posibl yn cael ei ystyried, a’r penderfyniad yn cael ei wneud yn ddoeth ac yn gall, law yn llaw a chyfathrebu gyda ni y bobl sy’n gweithio’r tir, ac yn sicrhau bwyd safonol ar y plât.

Yn yr un modd gobeithio bydd ein Dirprwy weinidog newydd ni dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans yn gweithredu rhaglen datblygu gwledig Cymru, sy’n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu cynlluniau a phrosiectau sy’n cynnig cyfleoedd i ffermwyr, ond yn bwysicach na dim yn rhai sy’n haws ymuno â, ac elwa wrthyn nhw.

Ond wrth deithio o amgylch y wlad yn 2014 yn ffilmio ar gyfer y rhaglen Ffermio, calonogol iawn yw gweld yr holl frwdfrydedd, egni ag angerdd sydd gan gymaint o’n hieuenctid ni’r dyddiau hyn. Mae yna ganran uchel yn awchu am naillai datblygu eu ffermydd neu am ddechrau amaethu. Dyma beth sy’n creu dyfodol i amaethyddiaeth, law yn llaw a ffermwyr proffesiynol sy’n ymroi 100% i’r diwydiant. Felly ar ddechrau blwyddyn newydd, anogaf ar yr undebau a’r Llywodraeth i sicrhau bod yr egni yma’n cael ei wobrwyo gyda chynlluniau, prosiectau a chyfleoedd defnyddiol a phwrpasol yn ogystal â sicrhau pris teg am yr hyn ni’n cynhyrchu.

Blwyddyn Newydd dda, llewyrchus ac iachus i chi gyd.